We, the undersigned, believe public transport is vital to keep communities connected, and is a lifeline to many, particularly in the face of cost of living and environmental crises.
We welcome the T10 and the improved link it provides between Bangor and the Eryri National Park.
However, we are asking Welsh Government and Transport for Wales to make minor adaptations to the service that include:
- incorporate an additional stop in, or near to, 'Llys y Gwynt/One Stop'
- travel through the villages of Tregarth and Rachub on Sundays
These improvements are essential in addressing a significant gap in transport accessibility in the area and would enhance connectivity within our community, ensuring greater convenience for residents and visitors alike.
--
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn credu bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i gadw cymunedau'n gysylltiedig, a'i bod yn achubiaeth i lawer, yn enwedig yn wyneb costau byw ac argyfyngau amgylcheddol.
Rydym yn croesawu’r T10 a’r cyswllt gwell y mae’n ei ddarparu rhwng Bangor a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Fodd bynnag, rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru wneud mân addasiadau i’r gwasanaeth sy’n cynnwys:
- ymgorffori arhosfan ychwanegol yn, neu'n agos at, 'Llys y Gwynt/One Stop'
- teithio trwy bentrefi Tregarth a Rachub ar y Sul
Mae’r gwelliannau hyn yn hanfodol i fynd i’r afael â bwlch sylweddol mewn hygyrchedd trafnidiaeth yn yr ardal a byddent yn gwella cysylltedd o fewn ein cymuned, gan sicrhau mwy o gyfleustra i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.